DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Datganiad Ysgrifenedig i Aelodau o'r Senedd ar Reoliadau Rheoli Cymorthdaliadau (Cymorthdaliadau a Chynlluniau o Ddiddordeb neu Ddiddordeb Penodol) 2022

DYDDIAD

1 Tachwedd 2022

GAN

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

 

 

 

 

 

Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am ddatblygiad rheoliadau yn ymwneud â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.

Ar 17 Hydref 2022 rhannodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yr wybodaeth ddiweddaraf am y pedwar Offeryn Statudol cysylltiedig â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 nad ydynt eto wedi’u gosod gerbron Senedd y DU, gan gynnwys ‘Rheoliadau Rheoli Cymorthdaliadau (Cymorthdaliadau a Chynlluniau o Ddiddordeb neu Ddiddordeb Penodol) 2022’.

Nid yw’r drafft terfynol hwn wedi newid o’r rheoliadau drafft diweddaraf a rannwyd â Llywodraeth Cymru ar 22 Gorffennaf 2022 yn dilyn y broses ymgynghori. Yn ystod y cyfnod ymgynghori ysgrifennais at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar y pryd yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Paul Scully AS, i fynegi pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch y diffyg sicrwydd cyfreithiol sy’n deillio o’r broses, gwerth isel y trothwyon economaidd sy’n sbarduno’r gofynion a phryderon ynghylch llawer o nodweddion y broses. Nid oes yr un o’r sylwadau na’r argymhellion a wnes i wedi’u derbyn na’u hadlewyrchu yn y rheoliadau terfynol.

Bydd y rheoliadau hyn yn effeithio’n sylweddol ar allu awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru i ddyfarnu cymorthdaliadau effeithiol ac amserol. Yn sgil y diffyg diffiniadau clir, cyfreithiol benodol, mae perygl y bydd y gyfundrefn newydd yn cael ei llesteirio gan fiwrocratiaeth a her gyfreithiol. Mae safoni’r trothwyon ar gyfer Cymorthdaliadau o Ddiddordeb neu Ddiddordeb Penodol (£5 miliwn a £10 miliwn yn y drefn honno) yn golygu bod perygl o greu dull deublyg gorsyml sy’n annigonol i adlewyrchu cymhlethdodau economi’r DU. Mae’r trothwyon £5 miliwn a £10 miliwn hefyd yn cymharu’n anffafriol â’r gyfundrefn UE flaenorol. Bydd y craffu ychwanegol ar gymorthdaliadau mewn sectorau sensitif megis cynhyrchu metelau, cerbydau neu ynni, nad ydynt yn bresennol yn y gyfundrefn gyfredol, yn effeithio’n sylweddol ar ddatblygiad economaidd Cymru.

Rwyf wedi ystyried yr angen i osod memorandwm cydsyniad offeryn statudol ac wedi dod i’r casgliad nad yw’r rheoliad drafft hwn yn ymgysylltu â Rheol Sefydlog 30A na Rheol Sefydlog 30B. Serch hynny, credaf y bydd y rheoliadau, fel y maent wedi’u drafftio, yn cael effaith negyddol sylweddol ar faes cymhwysedd datganoledig datblygu economaidd, ac ar feysydd o bwys i Economi Cymru. Roeddwn felly’n teimlo ei bod yn briodol tynnu sylw’r Senedd at y mater hwn.